Bu ymdrechion gan amryw o gyrff yn y gogledd a’r Canolbarth cyn mis Chwefror 1990 i greu Cynghrair fyddai’n uno’r ddwy ranbarth. Fodd bynnag, o ganlyniad i ddadlau ac anghytuno, bu’r datblygiadau’n araf, nes i Gymdeithas Bel Droed Cymru ymharu a pharatoi cynllun i gael Cynghrair Cenedlaethol ar ei thraed erbyn 1992/93.
Golygai hyn fod ffurfio Uwch Gynghrair i’r Gogledd a’r Canolbarth yn holl bwysig, ac felly aethpwyd ati i drefnu cyfarfod hefo’r Clybiau hynny oedd â diddordeb. Cyhoeddodd Alun Evans, Ysgrifennydd y Gymdeithas Bel droed amlinelliad o’r cynlluniau gan nodi “Mi fydd Cynghrair yn y gogledd tymor nesa fydd yn gyfatebol i’r gyfundrefn yn y de”. Aeth yn ei flaen “Mi fydd rhai Cynghreiriau yn cael eu haflonyddu yn sgil y newidiadau, ond mae’n hen bryd gwneud y newidiadau hyn”.
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Gynghrair Undebol (Welsh Alliance), Trefor Lloyd Hughes “Dwi gant y gant tu ol i’r cynllun yma, a dwi’n deud hynny fel Ysgrifennydd Cynghrair sy’n debygol o golli nifer o glybiau”.
Mi oedd 16 o’r 18 clwb oedd yn bresennol yn y cyfarfod o blaid y cynllun, ac yn awyddus i ymuno â’r Cynghrair newydd o’u cynghreiriau presennol; Cynghrair Undebol (Welsh Alliance), Cynghrair y Canolbarth a Phrifadran Cynghrair Undebol Wrecsam a’r Cylch.
Y Gymdeithas Bel Droed oedd yn gyfrifol am weinyddu’r Cynghrair newydd dan reolaeth Mr Evans, ac aethpwyd ati’i yrru ffurflenni cais i bob clwb a ddangosodd ddiddordeb. Fe ddangosodd 22 o glybiau ddiddordeb yn y diwedd, ond cyn i’r 16 terfynol gael eu dewis, mi oedd yn ofynnol i’r clybiau gwblhau holiadur a gynlluniwyd gan y Gymdeithas Bel droed. Rhaid oedd i’r Clybiau fodloni’r Corff llywodraethol, a chytuno’i dderbyn cyfrifoldebau tymor hir y Gymdeithas a oedd yn ceisio cael Cynghrair Cenedlaethol ar ei thraed erbyn 1992.
Yr 16 clwb a ddewiswyd oedd; C.P Caersws, Carno, CP Penrhyncoch, Llanidloes a’r Trallwng o Gynghrair y Canolbarth. Bethesda Athletic, Cei Conna, Conwy Utd, CP Porthmadog, Y Fflint, Treffynon, a Dyffryn Nantlle o’r Gynghrair Undebol (Welsh Alliance). A Brymbo Steelworks, Gresford Athletic a’r Wyddgrug o Brifadran Cynghrair Undebol Wrecsam a’r Cylch.
Daeth Elfed Ellis yn Gadeirydd y Gynghrair, John Eifion Lloyd yn Is-gadeirydd a J.O Hughes yn Drysorydd. Rhyddhawyd Terrence Hewitt o’i ddyletswyddau hefo Cynghrair Undebol Wrecsam a’r Cylch i ddod yn Ysgrifennydd y Cynghrair.
Ers hynny mae Cynghrair Undebol Huws Gray Fitlock (Welsh Alliance) wedi sefydlu ei hun fel ail haen y pyramid yn y gogledd, hefo clybiau yn mynd a dod rhyngddi a Chynghrair Undebol Honda Pentraeth a Phrifadran Wrecsam a’r Cylch.
Mae diddordeb clybiau’r canolbarth wedi lleihau’n ddiweddar fodd bynnag, gyda chostau trafeilio i’w weld yn rhy uchel, yn enwedig i bellteroedd Sir Fon a’r arfordir.
|